Mae bys Meri-Ann wedi brifo, A Dafydd y gwas ddim yn iach. Mae'r baban yn y crud yn crio, A'r gath wedi sgrapo Joni bach. Sosban fach yn berwi ar y tân, Sosban fawr yn berwi ar y llawr, A'r gath wedi sgrapo Joni bach.
Dai bach y sowldiwr, Dai bach y sowldiwr, Dai bach y sowldiwr, A chwt ei grys e mas.
Mae bys Meri-Ann wedi gwella, A Dafydd y gwas yn ei fedd; Mae'r baban yn y crud wedi tyfu, A'r gath wedi huno mewn hedd. Sosban fach yn berwi ar y tân Sosban fawr yn berwi ar y llawr A'r gath wedi huno mewn hedd.
Dai bach y sowldiwr, Dai bach y sowldiwr, Dai bach y sowldiwr, A chwt ei grys e mas.